Bydd y panel asesu cynghorol yn asesu datganiadau personol a CVs yr ymgeiswyr er mwyn penderfynu pwy sy’n bodloni’r meini prawf y swydd orau, a phwy fydd yn cael gwahoddiad i gyfweliad. Ni fydd y panel yn dibynnu ar unrhyw beth heblaw’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn eich CV a’ch datganiad personol i asesu a oes gennych y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen.
Bydd y panel yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Annibynnol o’r Panel, Dr Prysor Williams yn ogystal â Ryan Doyle, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Economi Wledig a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru, Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Cytundeb Cydweithio, Llywodraeth Cymru a Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd asiantaeth chwilio weithredol yn cael ei defnyddio i gynorthwyo’r panel.
Mae’n bosibl y caiff eich cais ei roi ar restr hir, gan ddibynnu ar faint o geisiadau a ddaw i law, cyn creu’r rhestr fer. Fodd bynnag, bydd eich cais yn cael ei rannu gyda’r panel cynghori ar asesiadau a’r asiantaeth chwilio gweithredol a fydd yn cael ei defnyddio i gynorthwyo’r panel.
Rydym yn rhagweld y bydd y panel mewn sefyllfa ym mis Mehefin i gynghori’r Gweinidog pwy y dylid eu gwahodd i gyfweliad. Y bwriad ar hyn o bryd yw cynnal cyfweliadau ym mis Gorffennaf.
Os ydych wedi ymgeisio trwy gynllun gwarantu cyfweliad a’ch bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer y swydd, cewch chithau eich gwahodd i gyfweliad.
Ein bwriad yw cynnal y cyfweliadau ar-lein oherwydd Covid-19. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd y panel yn holi ynglŷn â’ch sgiliau a’ch profiad ac yn gofyn cwestiynau penodol i asesu a ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y swydd.
Caiff ymgeiswyr sy’n briodol i’w penodi ym marn y panel, yn cael eu hargymell i’r Gweinidogion a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae’n bosibl y bydd y Gweinidog yn dewis cyfarfod â’r ymgeiswyr sy’n briodol i’w penodi cyn gwneud penderfyniad. Bydd bwlch amser rhwng y cyfweliad a’r penderfyniad penodi terfynol.
Ymholiadau a chwynion
Os oes gennych ymholiadau ynglŷn â’ch cais, neu os nad ydych yn fodlon â’r broses recriwtio, cysylltwch ag Uned Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.