Web Analytics

GWNEUD CAIS

I wneud cais am y swydd hon, ewch i wefan recriwtio Llywodraeth Cymru a chliciwch ar y swydd sydd gennych ddiddordeb ynddi.  Cliciwch ‘Gwneud Cais’ yn y gornel chwith ar waelod y dudalen. Os hoffech wneud cais ar gyfer y swydd hon yn y Saesneg, defnyddiwch y ddolen ‘Newid Iaith / Change Language’ yn y gornel dde ar ben y dudalen, er mwyn mynd â chi i fersiwn Saesneg yr hysbyseb hwn, lle y gallwch wneud cais yn y Saesneg.

Y tro cyntaf y byddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith bydd yn rhaid i chi gofrestru, a chewch ddefnyddio hwn i’ch diweddaru ar gynnydd hwn neu unrhyw  geisiadau eraill y byddwch yn eu gwneud.

Pan fyddwch wedi cofrestru, byddwch yn gallu mynd i’r ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen i chi uwchlwytho datganiad personol a CV.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer un neu fwy o’r rolau sy’n cael eu hysbysebu.

Eich cais

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion cryno o’ch swydd bresennol neu ddiweddaraf, gan nodi am faint o amser y buoch chi yn y swydd. Nodwch unrhyw benodiadau Gweinidogol blaenorol neu bresennol.

Dylai eich datganiad personol nodi sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf ym manyleb y person. Rhaid i’ch datganiad personol nodi’n glir pa rôl / rolau yr hoffech gael eich ystyried ar ei chyfer / eu cyfer. Nodwch y rôl neu’r rolau gan ddefnyddio rhif y rôl a’r disgrifiad a nodir isod.

Rhowch sylw i’r holl feini prawf hanfodol sy’n berthnasol i’r rôl neu’r rolau yr ydych yn gwneud cais amdanynt yn ogystal ag unrhyw feini prawf dymunol yr ydych yn eu bodloni. Gall defnyddio penawdau helpu i strwythuro’ch cais.

Dyma’r manylion a ddefnyddir gan y panel asesu i benderfynu a ydych yn ymgeisydd gymwys, felly gwnewch y defnydd gorau o hyn. Cadwch eich datganiad personol o fewn 1,500 o eiriau. Efallai na fydd y panel yn ystyried unrhyw beth mwy na hyn (er y bydd disgresiwn y panel yn cael ei ddefnyddio os byddwch yn gwneud cais am fwy nag un rôl a byddem yn awgrymu y byddai 500 o eiriau ychwanegol fesul rôl ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r meini prawf hanfodol penodol ar gyfer y rôl ychwanegol honno yn rhesymol).

Datganiad Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai cyrff cyhoeddus fod ag aelodau sy’n adlewyrchu cymdeithas Cymru – pobl o bob cefndir – ar eu bwrdd er mwyn eu helpu i ddeall anghenion pobl a gwneud gwell penderfyniadau. Dyma pam y mae Llywodraeth Cymru yn annog amrywiaeth eang o unigolion i wneud cais am benodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ceisiadau yn arbennig gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys menywod, pobl dan 30 oed, pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Cynllun Gwarant Cyfweliad – Yn Gadarn o blaid Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r rhaglen Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl ac yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau. Mae’r cynllun yn gwarantu cyfweliad i bobl anabl os ydynt yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. Mae’r ffurflen gais hefyd yn eich galluogi i roi manylion unrhyw anghenion neu offer penodol sydd eu hangen arnoch i ddod i gyfweliad.

AMSERLEN DDANGOSOL

Digwyddiadau gwybodaeth
Yr wythnosau sy’n cychwyn ar 23 Mai a 06 Mehefin
Dyddiad cau
16:00 ddydd Sul 26 Mehefin
Cyfweliadau cychwynnol
Yr wythnosau sy’n cychwyn ar 04, 11, 18 a 25 Gorffennaf
Llunio’r rhestr fer
canol-diwedd Awst
Cyfweliadau gan y Panel
Yr wythnosau sy’n cychwyn ar 05, 12 a 19 Medi