Web Analytics

RÔL A CHYFRIFOLDEBAU’R BWRDD

Mae’r adnoddau naturiol sydd gennym yng Nghymru – ein coed, moroedd, bryniau, caeau, dŵr a bywyd gwyllt – yn hanfodol ar gyfer ein dyfodol. Hebddynt, ni fyddai gennym aer glân i’w anadlu na dŵr i’w yfed. Maent yn un o brif ysgogwyr ein heconomi ac yn helpu i gynnal iechyd a llesiant ein pobl ac yn denu ymwelwyr i Gymru.

Mae galw cynyddol ar yr adnoddau hyn – gan ffactorau amgylcheddol fel newid yn yr hinsawdd, a chan ffactorau cymdeithasol ac economaidd. Mae’n hanfodol felly sicrhau y caiff ein hadnoddau amgylcheddol eu rheoli yn y modd gorau posibl, i sicrhau gwerth am arian a chyflawni’r canlyniadau gorau. Mae angen gwneud hyn mewn ffyrdd sy’n gynaliadwy, er mwyn peidio â gwastraffu asedau naturiol Cymru ac er mwyn eu cynnal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Atebolrwydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn atebol i Weinidogion Cymru trwy’r Gweinidogion Noddi (y Gweinidog Newid Hinsawdd ar hyn o bryd) ac yn destun craffu gan Bwyllgorau perthnasol y Senedd. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod CNC yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Mae hefyd yn atebol i Weinidogion Cymru am sut y mae’n cyflawni yn erbyn  llythyr cylch gwaith y Gweinidog.

Bwrdd CNC

Mae’r Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd ac un ar ddeg o aelodau, ac un ohonynt yw’r Prif Weithredwr. Wrth ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i’r sefydliad, mae’r Bwrdd, ar y cyd ac yn unigol, yn glynu at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan.

Yn ogystal ag egwyddorion Nolan, bydd angen i’r Bwrdd sicrhau hefyd bod y sefydliad yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf yn rhoi ar waith ddyletswydd llesiant, sef i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Ar y cyd, dylai’r Bwrdd feddu ar gyfuniad o sgiliau sy’n diwallu anghenion busnes presennol CNC a’u nodau ar gyfer y dyfodol. Yn ddelfrydol, mae aelodau’r Bwrdd yn bobl ymarferol a strategol, a chanddynt feddwl cadarn, sy’n gallu cynnig adolygiad beirniadol, ac sy’n fedrus wrth roi arweiniad ac adborth uniongyrchol, yn ogystal â chefnogaeth pan fo’i hangen. Maen nhw’n mynegi eu barn ac yn cwestiynu yn hytrach na derbyn; maen nhw’n ddigon dewr i ofyn cwestiynau anodd mewn modd adeiladol ond gan fod yn ymwybodol bod CNC yn sefydliad mawr a chymhleth y mae angen ei arwain o ddydd i ddydd gan y Weithrediaeth. Felly, mae’n rhaid i aelodau’r Bwrdd fod â diddordeb mewn gwneud cyfraniad ystyrlon i ddatblygiad sefydliadol a gallu ymdopi â’r pwysau o weithredu yn llygad y cyhoedd.

Dylai’r Bwrdd weithredu fel tîm a phan fydd penderfyniadau wedi’u gwneud mae’n rhaid i aelodau unigol ymddwyn yn golegol a chefnogi penderfyniadau’r Bwrdd yn ei gyfanrwydd a’r swyddogion Gweithredol wrth iddyn nhw roi cyfarwyddyd y Bwrdd ar waith, ni waeth beth fo’r heriau.

Mae bod yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig cyfle i chi weithio gyda, ac ar ran pobl sy’n angerddol ynglŷn ag adnoddau naturiol Cymru.  Mae CNC yn ceisio gwella’n barhaus i greu sefydliad sy’n perfformio’n dda i gyflawni ei phwrpas uchelgeisiol.