Web Analytics

MANYLEB PERSON

Rydym yn chwilio am dri aelod o’r Bwrdd i ddechrau o fis Medi 2022:

  1. Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i’w benodi’n Gadeirydd Is-bwyllgor Cyllid y Bwrdd;
  2. Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i’w benodi’n Gadeirydd Is-bwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd y Bwrdd;
  3. Aelod o’r Bwrdd sy’n gyfarwydd â’r marchnadoedd pren ac ynni adnewyddadwy

Un aelod o’r Bwrdd i ddechrau ar 01 Tachwedd 2022:

  1. Aelod o’r Bwrdd yn gymwys i’w benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg.

A dau aelod o’r Bwrdd i ddechrau ar 09 Tachwedd 2022:

  1. Aelod o’r Bwrdd sydd â phrofiad o ymgysylltu cymdeithasol/cymunedol ac ymgysylltu â’r trydydd sector a/neu fentrau cymdeithasol.
  2. Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i’w benodi’n aelod o Fforwm Rheoli Tir Cymru.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer un neu fwy o’r rolau sy’n cael eu hysbysebu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi yn eich datganiad personol pa rôl / rolau yr ydych cyn dymuno cael eich ystyried ar ei chyfer/eu cyfer.

Manyleb person

Mae angen i bob ymgeisydd ddangos y sgiliau a’r ymddygiadau hanfodol canlynol:

Meini prawf hanfodol: ar draws pob rôl:

  • Parchu a deall egwyddorion atebolrwydd a llywodraethu da
  • Crebwyll wrth wneud penderfyniadau cymhleth
  • Y gallu i ddehongli a herio adroddiadau ariannol a materion perfformiad ehangach
  • Ffocws ar genedlaethau’r dyfodol: meddwl am effaith hirdymor penderfyniadau a chamau gweithredu
  • Ymrwymiad amlwg i ddeall a hyrwyddo materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn y gweithle, mewn rôl arwain, a/neu wrth ddarparu gwasanaethau

Bydd ceisiadau ymgeiswyr yn cael eu cryfhau drwy ddangos rhai o’r sgiliau ac ymddygiadau dymunol canlynol neu bob un ohonynt:

Meini prawf dymunol: ar draws pob rôl:

  • Ymrwymiad angerddol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, ac i fynd ar drywydd rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol a’i hyrwyddo
  • Naill ai proffil cyhoeddus neu brofiad ym maes cyfathrebu a/neu’r maes digidol
  • Profiad o rolau a/neu gyfrifoldebau cyfrifyddu neu gyllid (gan gynnwys ar lefel bwrdd neu bwyllgor)
  • Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg (ac eithrio Rôl 6 (hanfodol fel y nodir))
  • Deall: yn gallu deall rhannau o sgwrs sylfaenol;
  • Siarad: yn gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn Gymraeg;
  • Darllen: yn gallu darllen rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol gyda dealltwriaeth;
  • Ysgrifennu: yn gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau bob dydd.

Manylebau rôl

Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r sgiliau a ganlyn a dylai pob ymgeisydd ddangos y sgiliau a’r ymddygiadau canlynol sy’n berthnasol i’r rôl (neu’r rolau) y maent yn dymuno gwneud cais amdanynt. Nodwch yn glir pa rôl neu rolau yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer:

Rôl 1 – Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

  • Profiad o gadeirio uwch bwyllgor
  • Yn gyfforddus wrth ddehongli a herio adroddiadau a rhagolygon ariannol a materion ehangach sy’n gysylltiedig â pherfformiad
  • Byddai dealltwriaeth dda o gyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ddymunol

Rôl 2 – Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd

  • Profiad o gadeirio uwch bwyllgor
  • Yn gyfforddus wrth ddehongli a herio adroddiadau a rhagolygon ariannol a materion ehangach sy’n gysylltiedig â rheoli llifogydd
  • Byddai dealltwriaeth dda o’r risgiau a’r materion sy’n gysylltiedig â rheoli llifogydd yn ddymunol

Rôl 3 – Aelod o’r Bwrdd: pren ac ynni adnewyddadwy

  • Gwybodaeth am y marchnadoedd pren ac ynni adnewyddadwy.
  • Byddai profiad yn y sector preifat yn ddymunol, gan gynnwys gweithgarwch masnachol a gwerth cymdeithasol

Rôl 4 – Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

  • Profiad o gadeirio uwch bwyllgor
  • Yn gyfforddus yn dehongli ac yn herio adroddiadau a rhagolygon ariannol a materion perfformiad ehangach
  • Byddai dealltwriaeth dda o archwilio a risg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ddymunol

Rôl 5 – Aelod o’r Bwrdd: ymgysylltu cymdeithasol/cymunedol

  • Profiad o ymgysylltu cymdeithasol a/neu gymunedol, o safbwynt amgylcheddol os oes modd
  • Gwybodaeth am y trydydd sector a/neu fentrau cymdeithasol

Rôl 6 – Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i fod yn aelod o Fforwm Rheoli Tir Cymru

  • Profiad o gadeirio uwch bwyllgor neu grŵp ac arno ystod eang o randdeiliaid allanol
  • Profiad ym maes rheoli tir, y dirwedd, coedwigaeth neu’r amgylchedd
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
  • Deall: yn gallu deall y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith;
  • Siarad: yn gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith;
  • Darllen: yn gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol sy’n gysylltiedig â gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur;
  • Ysgrifennu: yn gallu paratoi deunydd arferol sy’n gysylltiedig â gwaith gyda, a’r gwaith hwnnw’n cael ei wirio

Sylwer: mater i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yw penodi aelodau’r Bwrdd i swyddi ar Bwyllgorau a Fforymau. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais i gael eich penodi’n aelod o Fwrdd CNC, mater i Fwrdd CNC fydd penodi i’r swyddi ychwanegol hyn. Ar hyn o bryd, mae Cadeiryddion Is-bwyllgorau yn cael mwy o ddyddiau o gydnabyddiaeth ariannol.

Cymhwysedd

Rydych yn gymwys i gymryd rhan os ydych yn gallu rhoi tystiolaeth o’r profiad sydd gennych o ran y sgiliau a’r ymddygiadau uchod. Mae croeso i chi wneud cais am fwy nag un rôl.

Dylai ymgeiswyr fod yn bobl sy’n ymddwyn bob amser mewn ffordd a fydd yn cynnal hyder y cyhoedd.

Sylwer, byddwch yn cael eich anghymhwyso rhag cael eich penodi os:

  • Ydych wedi’ch dyfarnu’n euog o unrhyw drosedd yn ystod y 5 mlynedd flaenorol yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw ac wedi’ch dedfrydu i garchar (wedi’i ohirio ai peidio) am gyfnod o dri mis neu fwy heb opsiwn o dalu dirwy;
  • Ydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr;
  • Os terfynwyd swydd flaenorol gyda CNC yn gynnar oherwydd nad oedd o fudd i’r corff nac o ran rheolaeth dda arno fod yr unigolyn yn parhau yn y swydd
  • Ydych yn destun gorchymyn anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986;
  • Yn un o gyflogeion Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dylai ymgeiswyr nodi hefyd fod bod yn aelod o CNC yn eu hanghymhwyso rhag bod yn aelod o Senedd Cymru o dan Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020.

Gwrthdaro Buddiannau

Dylai unrhyw wybodaeth a allai effeithio’n sylweddol ar eich cais am benodiad gael ei datgan yn y ffurflen gais o dan yr adran Gwrthdaro Buddiannau. Gofynnir i chi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sydd gennych a allai, neu y canfyddir eu bod yn gwrthdaro â swyddogaeth a chyfrifoldebau aelod o Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a swyddogaethau ag awdurdod y tu hwnt i’r swyddogaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Caiff unrhyw wrthdaro buddiannau eu harchwilio yn y cyfweliad. Os cewch eich penodi, bydd yn rhaid i chi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i’r cyhoedd.

Diwydrwydd Dyladwy

Bydd gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu cynnal ar ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn y cam sifftio a chaiff unrhyw ganfyddiadau eu codi gan y panel cynghori ar asesiadau yn ddiweddarach yn y broses recriwtio.

Safonau bywyd cyhoeddus

Bydd disgwyl i chi ddangos safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus danysgrifio i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus.

Bydd asiantaeth chwilio gweithredol trydydd parti (Green Park Interim & Executive Ltd) yn cefnogi’r ymgyrch recriwtio hon.  O’r herwydd, bydd manylion ymgeiswyr yn cael eu rhannu fel y bo’n briodol gyda’r asiantaeth chwilio ac aelodau’r panel, yn benodol er mwyn llywio a chynnal y broses recriwtio hon.