Web Analytics

Y PRIF FFEITHIAU AM Y SWYDD

Diolch am eich diddordeb mewn dod yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). CNC yw’r sefydliad cyntaf yn y byd i ddwyn ynghyd lawer o’r dulliau sydd eu hangen i fynd ar drywydd a chymhwyso rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru. CNC, a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2013, yw’r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Ochr yn ochr ag ystod eang o gyfrifoldebau gweithredol a rheoleiddiol, dyma brif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar adnoddau naturiol.

Mae’r Bwrdd yn rhoi arweiniad ac yn pennu cyfeiriad ac amcanion strategol y sefydliad. Mae’r Bwrdd hefyd yn hyrwyddo safonau uchel drwy gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae’n sicrhau bod gweithgareddau CNC yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol, gan fonitro perfformiad Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol, ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad yn llawn.

Rydym yn chwilio am dri aelod o’r Bwrdd i ddechrau o fis Medi 2022:

  1. Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i’w benodi’n Gadeirydd Is-bwyllgor Cyllid y Bwrdd;
  2. Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i’w benodi’n Gadeirydd Is-bwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd y Bwrdd;
  3. Aelod o’r Bwrdd sy’n gyfarwydd â’r marchnadoedd pren ac ynni adnewyddadwy.

Un aelod o’r Bwrdd i ddechrau ar 01 Tachwedd 2022:

  1. Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i’w benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg.

A dau aelod o’r Bwrdd i ddechrau ar 09 Tachwedd 2022:

  1. Aelod o’r Bwrdd sydd â phrofiad o ymgysylltu cymdeithasol/cymunedol ac ymgysylltu â’r trydydd sector a/neu fentrau cymdeithasol.
  2. Aelod o’r Bwrdd sy’n gymwys i’w benodi’n aelod o Fforwm Rheoli Tir Cymru.

Mae ar CNC angen pobl ag uchelgais a syniadau a all ymrwymo i fynd i chwe chyfarfod o’r Bwrdd y flwyddyn. Bydd disgwyl hefyd i aelodau’r Bwrdd fod yn aelodau o is-bwyllgorau statudol sy’n cyfarfod 4-6 gwaith y flwyddyn. Mae’r ymrwymiad amser ar gyfer y rôl hon yn 36 diwrnod y flwyddyn (neu 48 diwrnod y flwyddyn os cewch eich penodi’n Gadeirydd Is-bwyllgor (rolau 1. a 2.), a chaiff y penodiad ei gynnig am gyfnod cychwynnol rhwng dwy a phum mlynedd. Y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros benodi (y Gweinidog Newid Hinsawdd) fydd yn penderfynu ar y cyfnod hwnnw yng ngoleuni’r holl amgylchiadau adeg y penodi.

Gellir lleoli’r swydd mewn unrhyw le yng Nghymru ac mae tâl cydnabyddiaeth o £350 y dydd ynghyd â threuliau rhesymol.

Oherwydd pandemig Covid-19, mae llawer o’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol ar hyn o bryd, ond yn y tymor hwy cynhelir y cyfarfodydd yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, a gall rhai ohonynt olygu aros dros nos. Cynhelir cyfarfodydd eraill hefyd drwy gydol y flwyddyn, er enghraifft y rhai sy’n galluogi’r Bwrdd i ddatblygu fel tîm. Trefnir y rhain i leihau’r goblygiadau teithio i’r Bwrdd cyfan.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu galluoedd dwyieithog mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.